Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (277) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 6 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Atebwyd cwestiynau 1-4 a 6-12. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol eilyddion ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5810 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol fel eilyddion o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
Ann Jones (Llafur) ar gyfer Mick
Antoniw (Llafur), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar gyfer Mark
Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), Elin Jones (Plaid Cymru) ar gyfer
Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), ac Aled Roberts (Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru) ar gyfer Eluned Parrott (Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru).
Derbyniwyd y Cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5800 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfer 2014-15,
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2015.
Derbyniwyd y Cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd safon uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;
2. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion yng Nghymru;
3. Yn credu nad yw consortia rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella ysgolion; a
4. Yn credu bod
polisi ieithoedd tramor modern Llywodraeth Cymru o greu canolfannau
rhagoriaeth yn annigonol i fynd i'r afael â'r angen i godi
safon y ddarpariaeth ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng
Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod
dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â gwella ysgolion wedi bod yn
gymysglyd, gan arwain at oedi ac
anghysondeb.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn gynharach'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd safon uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;
2. Yn credu bod
Llywodraeth Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i
godi safonau ysgolion yng Nghymru;
3. Yn credu nad yw consortia rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella ysgolion; a
4.
Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro
Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor
modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn
gynharach'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;
2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a gwella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a
3. Yn galw am
ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y gall corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant parhaus staff a myfyrwyr addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn sicrhau ei fod yn atebol fel sy'n briodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:
'ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y
manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau
athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu
trosglwyddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
21 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Derbyniwyd gwelliant 3, felly cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;
2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a
3.
Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm
wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled
â bod digon o adnoddau'n cael eu
trosglwyddo.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.13
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM5794 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Y bygythiad o radicaleiddio Islamaidd: Sut y gallwn fynd i'r afael ag eithafiaeth drwy gydweithio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2015